Mae cofrestru wedi agor ar gyfer Hawl i Holi ar Brexit Cymru Ifanc
Gall pobl ifanc rhwng 10 ac 20 oed gofrestru i ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr ar 24ain Hydref 2018, yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
James Williams, gohebydd Brexit BBC Cymru Wales, fydd yn cadeirio'r digwyddiad, a bydd panel o arbenigwyr amrywiol yn cael eu holi, gydag un panelwr arall i'w gadarnhau:
- Huw Irranca Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
- Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
- Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru/ Sustain Wales
Rydyn ni am wybod beth sy'n bwysig i bobl ifanc o ran Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Brexit. Mae hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc ofyn cwestiynau am Brexit, sut y gallai effeithio ar deithio ac astudio yn y Deyrnas Unedig, ar hawliau a chydraddoldeb yng Nghymru ar ôl Brexit, neu ar ffermio a chynhyrchu bwyd, neu ar gymunedau diogel a hapus.
Bydd angen cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw; er mwyn i ni allu grwpio cwestiynau tebyg a sicrhau bod cynifer o gwestiynau gwahanol â phosibl yn cael eu hateb ar y noson.
I archebu lle, a chyflwyno eich cwestiynau, llanwch y ffurflen hon os gwelwch yn dda a'i hanfon at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. erbyn dydd Mercher 10fed Hydref.