Mae Cymru Ifanc yn golygu gwrando arnoch chi a grymuso eich llais. P’un a ydych chi’n rhan o ysgol, fforwm ieuenctid neu sefydliad cenedlaethol, rydyn ni eisiau eich helpu i rannu eich gweithgareddau a’ch llais. Os nad ydych chi’n rhan o grŵp arbennig, byddwch chi’n dal i fedru roi gwybod i ni beth yw eich barn.
Bob blwyddyn bydd Cymru Ifanc yn canolbwyntio ar 12 mater sy’n bwysig i blant a phobl ifanc yng Nghymru:
- Chwe blaenoriaeth sy’n cael eu dewis gan bobl ifanc sy’n rhan o fforymau ieuenctid, yn faterion sy’n bwysig i blant a phobl ifanc.
- Chwe phrosiect sy’n cael eu dewis oherwydd eu bod yn cyfateb i waith cyfredol Llywodraeth Cymru.
Cafodd blaenoriaethau’r fforymau eleni eu dewis ddydd Gwener 27ain Mawrth fel rhan o ddiwrnod o weithgareddau ieuenctid i lansio’r prosiect.
Mae ein poster a thaflen am Cymru Ifanc yma:
Mae ein prosiect wedi’i adeiladu ar syniadau gwrando, rhannu, hysbysu a newid. Mae rhagor o wybodaeth amdanyn nhw a sut mae chwarae rhan isod.