
Croeso i wefan Cymru Ifanc, y man canolog ar gyfer prosiect llais ieuenctid newydd Cymru. Yn ystod y tair blynedd nesa, byddwn ni’n datblygu gwaith newydd ar faterion sy’n bwysig i blant a phobl ifanc, yn ogystal â chrynhoi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn eich fforymau, eich ysgolion a’ch sefydliadau chi. Byddwn ni’n rhannu eich lleisiau a’ch barn gyda Llywodraeth Cymru, a byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod eich lleisiau’n cael gwrandawiad ac yn arwain at newidiadau sy’n effeithio ar eich bywyd.
Lansiwyd gwefan Cymru Ifanc ddydd Gwener 27ain Mawrth 2015. Daeth cynrychiolwyr ifanc o fforymau ledled Cymru at ei gilydd i drafod eu materion lleol a phenderfynu ar brosiectau cenedlaethol. Gallwch chi weld y prosiectau gafodd eu dewis yma.